Y Pwyllgor Menter a Busnes
Enterprise and Business Committee

 

Edwina Hart AC

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Llywodraeth Cymru

 

 

23 Hydref 2014

 

 

 

 

 

 

 

                                          
Annwyl Weinidog,

 

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16

 

Diolch ichi am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 16 Hydref fel rhan o'n gwaith craffu ar gynigion y gyllideb ddrafft ar gyfer 2015-16. Diolch hefyd am ddarparu'r wybodaeth y gwnaethom ofyn amdani ar gyfer y cyfarfod hwn yn ein llythyr dyddiedig 24 Gorffennaf. Roeddem yn falch o weld y manylion ar linellau gwariant unigol y gyllideb yn Atodiad A, sy'n hwyluso ein gwaith yn fawr, ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf bob chwe mis yn Atodiad C, y gwnaethoch gytuno i'w darparu wrth inni drafod y gyllideb y llynedd.

 

Yn debyg i'r drefn yn y gorffennol, mae gwaith craffu'r Pwyllgor eleni wedi canolbwyntio ar flaenoriaethu a gwerth am arian. Mae'r elfennau hyn o'r gyllideb yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun y gostyngiadau sylweddol sy'n cael eu gwneud mewn rhai meysydd. Rydym yn gwneud nifer o argymhellion isod ac yn gofyn ichi ymateb i'r Pwyllgor ynghylch y pwyntiau hyn.

 

Caiff copi o'r llythyr hwn ei anfon at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a chaiff ei gyhoeddi ar ein gwefan ynghyd â'ch ateb.

 

Gostyngiadau refeniw i gyllideb yr economi a gwyddoniaeth

 

Ar wahân i golli'r swm canlyniadol o gyllideb y DU a oedd yn cefnogi cynlluniau ardrethi busnes, mae eich papur yn dangos £16.5 miliwn yn rhagor o ostyngiadau refeniw i gyllideb yr economi a gwyddoniaeth. Pan ofynnwyd ichi sut yr oeddech wedi blaenoriaethu eich ymrwymiadau o ran y gostyngiadau hyn, gwnaethoch ddweud wrth y Pwyllgor eich bod wedi ceisio amddiffyn ffrydiau ariannu sy'n ymwneud â chyflogaeth a threchu tlodi.

 

1. Gwnaethoch gynnig darparu nodyn am sut yr ydych yn ceisio manteisio i'r eithaf ar gronfeydd strwythurol yr UE a buddsoddiad preifat i leihau'r baich ar eich cyllideb adrannol.

 

Mae'r dyraniadau refeniw ar gyfer yr economi a gwyddoniaeth yn 2015-16 yn dangos gostyngiad o £27.4 miliwn o gymharu â llinell sylfaen cyllideb atodol 2014-15. Mewn termau real, mae hyn yn ostyngiad o 25.3%. Cafodd Llywodraeth Cymru £17.4 miliwn yn 2014-15 o ganlyniad i gyllideb y DU, ac mae'r arian hwnnw'n cyfrif am ran o'r gostyngiad hwn. Diben yr arian hwnnw oedd cefnogi cynlluniau ardrethi busnes, a chynyddwyd y gyllideb ar gyfer y flwyddyn honno yn unig. Fodd bynnag, roedd eich papur yn nodi £16.5 miliwn yn rhagor o ostyngiadau yn nyraniadau refeniw cyllideb yr economi a gwyddoniaeth (oherwydd gostyngiad llinell sylfaen o £8.144 miliwn a nodwyd yn y cynlluniau dangosol ar gyfer 2015-16), a gostyngiad llinell sylfaen pellach o £8.4 miliwn yn 2015-16 yn sgil blaenoriaethu cyllidebau portffolio ar draws Llywodraeth Cymru.

 

Gwnaethoch roi gwybod i'r Pwyllgor am rai o'r arbedion yr ydych wedi'u sicrhau er mwyn gwneud y toriadau hyn – er enghraifft, gostyngiad o £500,000 yng 'nghostau rhedeg' Cyllid Cymru.

 

2. Hoffem gael gwybod rhagor am y dulliau a ddefnyddir gan eich adran i nodi arbedion mewn ffordd systematig yn barhaus. Hoffem hefyd gael nodyn sy'n dangos yn union sut y sicrhawyd y gostyngiad o £16.5 miliwn yn y dyraniadau refeniw i gyllideb yr economi a gwyddoniaeth, ac sy'n nodi a yw'r gostyngiadau wedi'u cyflawni drwy arbedion effeithlonrwydd neu ostyngiadau mewn cyllid. Byddai gennym ddiddordeb hefyd cael gwybod eich barn ynghylch a ellid bod wedi gwneud unrhyw rai o'r arbedion cyfredol yn gynharach.

 

Cronfa Twf Economaidd Cymru

 

Gwnaethoch sôn am Gronfa Twf Economaidd Cymru, y mae ei chyllideb wedi'i gostwng i sero er gwaethaf y ffaith iddi gael ei chynllunio i helpu i greu swyddi a threchu tlodi. Gwnaethoch ddweud wrth y Pwyllgor y byddech yn gofyn am arian canolog i fusnesau penodol ar gyfer unrhyw raglenni yn y meysydd hyn yn y dyfodol. Nodoch hefyd eich bod wedi cynnal adolygiad o Gronfa Twf Economaidd Cymru.

 

3. Byddem yn gwerthfawrogi rhagor o wybodaeth am faint o gymorth a allai fod ar gael o'r gyllideb ganolog ar gyfer prosiectau a allai fod wedi cael eu hariannu'n flaenorol drwy Gronfa Twf Economaidd Cymru. Hoffem hefyd gael copi o'r adolygiad yr ydych wedi'i gynnal o Gronfa Twf Economaidd Cymru.

 

 

Dinas-ranbarthau ac Ardaloedd Menter

 

Gwnaethom ofyn ichi ynghylch y dyraniadau a wnaed i ddinas-ranbarthau ac ardaloedd menter a sut y gwnaethoch asesu eu heffeithiolrwydd.

 

 

4. Rydym yn edrych ymlaen at weld y wybodaeth y gwnaethoch ymrwymo i'w darparu am y prosiectau a'r gwariant hyd yma ym mhob un o'r ardaloedd menter, a gofynnwn eich bod yn edrych ar ffyrdd i gyflwyno data ar berfformiad a chyflawniadau pob ardal, er mwyn hwyluso gwaith craffu.

 

Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr

 

Rydym yn croesawu eich ymrwymiad i gynnal y dyraniad cyfalaf o £2 miliwn ar gyfer twristiaeth ac yn nodi bod y rhanddeiliaid y buom yn siarad â hwy fel rhan o'n hymchwiliad i dwristiaeth o'r farn bod y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth yn ddefnyddiol iawn. Nodwn hefyd fod eich cyllideb ar gyfer 2015-16 yn dangos dyraniad refeniw llai ar gyfer digwyddiadau mawr, yn unol â blaenoriaethau gwariant.

 

5. Rydych wedi cytuno i roi dadansoddiad i'r Pwyllgor o brosiectau twristiaeth a ariannwyd drwy'r  Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, yn ogystal â'r rhai a ariannwyd drwy gynlluniau cyfalaf eraill. Cynigioch hefyd ddarparu rhestr o ddigwyddiadau mawr a gefnogwyd ledled Cymru gyda manylion am eu heffaith economaidd, gan gynnwys yn benodol yr effaith economaidd ar fusnesau Cymru.

 

 

Band Eang

 

Mae tarddiad y cyllid cyfalaf ychwanegol o £10 miliwn ar gyfer Cyflymu Cymru yn aneglur o hyd. Gwnaethoch esbonio bod £12 miliwn wedi dod o Lywodraeth y DU, gydag arian cyfatebol gan yr UE, ar gyfer cam mewnlenwi 1 cynllun Broadband Delivery UK.

 

6. Hoffai'r Pwyllgor gael eglurhad a yw'r £10 miliwn o gyllid cyfalaf a ddyrannwyd i Cyflymu Cymru yn 2015-16 yn wahanol i lefel y cyllid a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru pan ddyfarnwyd y contract i BT yn 2012. Hoffai'r Pwyllgor hefyd gael rhagor o fanylion am y cyllid a ddyrannwyd a'r canlyniadau a ddisgwylir o brosiect mewnlenwi cam 1, adolygiad Llywodraeth Cymru o Cyflymu Cymru a'r adolygiad annibynnol o waith Broadband Delivery UK. Byddai gennym ddiddordeb mewn gwybodaeth am sut y mae cynlluniau seilwaith band eang yng Nghymru yn gysylltiedig ag ardaloedd menter a mewnfuddsoddi.

 

Trafnidiaeth

 

Mae'r Pwyllgor yn nodi bod y gwaith o baratoi'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn anghyson â phroses y gyllideb, gan fod dyraniadau'r gyllideb o ran trafnidiaeth wedi'u gwneud cyn i'r cynllun gael ei gwblhau. Rydym hefyd yn dal yn ansicr ynglŷn â sut y mae'r Cynllun yn cael ei werthuso o ran ei gyfraniad  at amcanion y Rhaglen Lywodraethu a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, yn hytrach nag asesu prosiectau unigol a'u heffaith.

 

7. Hoffem gael rhagor o wybodaeth am y cysylltiad rhwng y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a'r broses o bennu'r gyllideb a sut y mae'r cynllun yn ei gyfanrwydd yn cael ei werthuso o ran ei effaith ar Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a'r Rhaglen Lywodraethu. At hynny, rydych eisoes wedi cytuno i anfon copi i'r Pwyllgor o adroddiad Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru ar ddulliau o gynllunio trafnidiaeth strategol.

 

Sonioch wrthym am arbedion o rhwng £3 miliwn a £4 miliwn yr ydych wedi'u gwneud yn y gyllideb cynnal a chadw ffyrdd o ganlyniad i newid y drefn arolygu.

 

8. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech rannu manylion â'r Pwyllgor am yr arbedion a wnaed yn y gyllideb cynnal a chadw ffyrdd o ganlyniad i newidiadau i'r drefn arolygu, gan gynnwys natur y newidiadau a sut yr arweiniodd hyn at yr arbedion y gwnaethoch gyfeirio atynt.

 

Nodwn fod canllawiau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi costau amcangyfrifedig a ffynonellau cyllid ar gyfer prosiectau a nodir yn eu Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol. Fodd bynnag, gwnaethoch nodi na fyddai hyn yn ymarferol o ran y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.

 

9. Hoffem gael eglurhad pellach o ran pam ei bod yn anymarferol i Lywodraeth Cymru ddarparu costau amcangyfrifedig ar gyfer prosiectau o dan y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, o ystyried bod gofyn i awdurdodau lleol wneud hynny.

 

Rydych wedi cytuno i egluro pa gyllideb a gâi ei defnyddio ar gyfer costau unrhyw her gyfreithiol yn ymwneud â ffordd liniaru'r M4. Edrychwn ymlaen at gael y wybodaeth honno, ond rydym yn dal yn bryderus am nifer o faterion eraill. Pan ysgrifennom atoch yn ystod yr haf, gofynnom ichi ddarparu manylion am unrhyw ddyraniadau yn y gyllideb ddrafft ar gyfer prosiect yr M4 o amgylch Casnewydd. Gwnaethoch esbonio yn y cyfarfod bod £7 miliwn o gyllid cyfalaf wedi'i ddyrannu i brosiect yr M4 ar gyfer 2015-16, ond nid oedd y wybodaeth honno yn eich papur. O ystyried maint a phwysigrwydd y prosiect, hoffem gael rhagor o fanylion am eich asesiad o fforddiadwyedd hirdymor y prosiect. Rydym yn deall efallai y bydd yn rhaid i chi weithio gyda'r Gweinidog Cyllid i ddarparu'r wybodaeth hon.

 

10. Hoffai'r Pwyllgor gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd prosiect yr M4 yn cael ei ariannu ac ar ba sail yr ydych yn ystyried ei fod yn fforddiadwy.

 

O ran Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae eich papur yn cyfeirio at rôl y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, ond yn ystod y cyfarfod gwnaethoch awgrymu bod y cyfrifoldeb am hyn yn rhan o'ch portffolio chi.

 

11. Hoffai'r Pwyllgor gael eglurhad am eich rôl chi a rôl y Gweinidog Cyfoeth Naturiol o ran Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

 

Diolch ichi unwaith eto am gynorthwyo'r Pwyllgor wrth graffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2015-16. Edrychwn ymlaen at gael eich atebion i'r pwyntiau a godwyd yn y llythyr hwn.

 

Yn gywir,

Description: WG Signature

 

William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes

 

Copi at: Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid